Croeso i wefan Hunaniaith
Hunaniaith yw Menter Iaith Gwynedd.
Bwriad sylfaenol y fenter ydy cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau ac ym mhob cymuned ledled Gwynedd.
Er mwyn gwneud hyn ‘dan ni’n datblygu cynlluniau ar y cyd gyda phartneriaid a mudiadau cymunedol, fydd yn:
- rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn cyd-destunau newydd ac amrywiol
- rhoi cyfleoedd ymarfer a magu hyder i’r rhai sy’n llai parod i siarad neu sydd yn siaradwyr newydd
- cynnig cefnogaeth i grwpiau gwirfoddol a chynrychiolwyr cymunedol
- codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rôl sydd gan bawb i chwarae wrth gynnal yr iaith, ac i ledaenu’r balchder yn y Gymraeg fel iaith fyw.
Os ‘sgynnoch chi unrhyw gwestiwn am ein gwaith cysylltwch efo ni.