Amdanom ni

Perthyn 5 aelod i dîm Hunaniaith:

Llywela Haf Owain - Uwch Swyddog Iaith
Mae Llywela wedi ei geni a’i magu yng Ngwynedd ac yn falch iawn o hynny. Cychwynodd Llywela arwain tîm Hunaniaith yn Medi 2019. Cyn hynny bu’n gweithio yn y maes gwleidyddiaeth ac amrywiol swyddi o fewn y sector gyhoeddus. Yn wreiddiol o Landwrog mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Llanrug gyda’i theulu. Mae’n hoff o gerdded, garddio, canu mewn côr, gwleidyddiaeth a choginio.
Bet Huws - Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd
Yn dilyn gyrfa fel cynllunydd gwisgoedd ar gyfer ffilm a theledu, penderfynodd Bet dorri cwys newydd drwy astudio cynllunio ieithyddol ac yna arwain prosiect Brocer Iaith Peblig. Ymunodd â thîm Hunaniaith yn 2015 er mwyn plethu ei chreadigrwydd gydag elfennau datblygu cymunedol – er budd y Gymraeg. Canolbwynt ei bydysawd ydy Pia, ei cheffyl ers 18 mlynedd. Ei phrif ddiddordebau yw olewon hanfodol, celfyddyd a chreu.
Ifan Llewelyn Jones - Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd
Mae Ifan wedi bod yn gweithio efo Hunaniaith ers 2012. Cychwynnodd weithio ym maes hyrwyddo’r Gymraeg ugain mlynedd ynghynt,  cyn symud i wahanol swyddi ym maes adfywio a datblygu cymunedol.  Mae’n dod yn wreiddiol o Groesor a rŵan yn byw yng Nghaernarfon.  Pan fydd o ddim yn gweithio mae o’n hoffi treulio amser hefo’i bartner a’i deulu, coginio, cerdded mynyddoedd a theithio yng Nghymru, gweddill Prydain a thramor.
Ant Evans - Cymhorthydd Canolfan Datblygu Iaith
Un o Harlech yn wreiddiol, mae Ant bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae’n aelod o’r tîm ers mis Ebrill 2020. Cyn hynna, mae wedi cyflawni sawl rôl gweinyddol ac wedi gweithio mewn llyfrgell (yn ogystal a chael cynnig swydd fel bwtler yn Awstralia!) Yn ei amser tu hwnt i’r gwaith, mae’n hoff o deithio, ceisio dysgu ieithoedd newydd, cymdeithasu a ddarllen.