Archif 2021

Uchafbwyntiau Blwyddyn Rithiol 2020-21

Clwb Gemau Fideo Misol

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y 4 Twrnamaint Rocket League Mis Mehefin mae Hunaniaith mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith eraill gogledd Cymru am gynnal Clwb Gemau Fideo misol. Yn cychwyn diwedd y mis, mi fydd y Clwb yn cynnig mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc i gymdeithasu yn y Gymraeg, yn enwedig dros wyliau’r haf.

Ym mis Gorffennaf mi fyddwn ni’n chwarae’r gemau yma efo’r grwpiau oed isod.

7 -11 oed: Minecraft
12 – 15 oed: Minecraft
16 – 18 oed: Fifa 21
18+: Fifa 21

Rhagor o fanylion ar ôl cofrestru.

Mi fydd y clwb yma’n cael ei gynnal yn Gymraeg yn unig.

Hoffem ddiolch i bawb gymerodd rhan yn y twrnamaint a llongyfarchiadau i’n henillwyr, dyma rhai ohonynt hefo’i gwobrau o Spirit of 58.

Chwedl Rhys a Meinir a chwedl Gwrtheyrn

Gwilym Bowen Rhys yn adrodd dwy o’n chwedlau mwyaf gwefreiddiol; hanes carwriaeth Rhys a Meinir ddaeth i ddiwedd dirdynol yn Nant Gwrtheyrn a Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid erlidwyd i’r Nant i wynebu canlyniad ei gamgymeriadau.

Teithiau Cerdded

Dyma chwech o deithiau cerdded o dan arweiniad i siaradwyr Cymraeg newydd yr haf yma yn ardal Dwyfor; croeso cynnes i ddysgwyr a siaradwyr medrus.

PENCAMPWYR GWYNEDD: CWIS DIM CLEM

Llongyfarchiadau mawr i Ella, Gethin, Glesni, Oli a Jac o Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen am eu buddugoliaeth yn Rownd Sirol Cwis Dim Clem a phob lwc iddyn nhw mis nesa’ yn y Rownd Genedlaethol yn erbyn timau Mentrau Iaith eraill Cymru. Canmoliaeth uchel hefyd i YSGOL TUDWEILIOG am ddod yn ail agos iawn, iawn ac i Ysgol Talsarnau am ddod yn drydydd.

Fideos y Gynhadledd

Yn Chwefror 2021, mewn cydweithrediad â Sgiliaith, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Grŵp Llandrillo Menai cynhaliwyd y drydedd yn ein cyfres o gynadleddau i godi ymwybyddiaeth o fanteision a gwerth y Gymraeg ymysg pobl ifanc 16+.  Gyda ogwydd ar fentergarwch ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, gwahoddwyd 7 o entrepreneurs ifanc i godi ymwybyddiaeth o fanteision y Gymraeg mewn busnes, rhannu profiadau ac arferion da, ac yn bennaf oll, ysbrydoli. Ewch i’n Sianel YouTube i glywed cyflwyniadau gan Celf Heledd, CwiltSiw, Hiwti, Ifan Emyr, Niki Pilkington, Orielodl and Sara Lois.