Archif Gwaith a Phrosiectau

Pecyn Adnoddau’r Fari Lwyd

Cliciwch yma i gael pecyn PDF: Y Fari Lwyd – pecyn adnoddau

Gweithdai Cyfansoddi Cân

Ddiwedd Medi cynhaliwyd dau Weithdy Cyfansoddi Cân ar Zoom ar gyfer plant a phobl ifanc ardal Y Bala efo Osian Williams a Branwen Haf Williams (Candelas Siddi, Blodau Papur). Yn y bore bu Lili, Lia a Sara yn cyfansoddi cân amdanynt eu hunain sef “LILI, LIA, SARA” ac yn y pnawn, cyfansoddodd Aiesha, Nel, Efa, Alys, Lewys, Gwion a Malena gân o’r enw “BWRLWM TAWELWCH”.  Y cam nesa’ oedd i bawb dderbyn trac cefndir o’r diwn a chopi o’r geiriau gan Osian; iddynt dapio’u hunain yn canu ar Voice Notes ar eu ffôn tra’n chwarae’r miwsig ar eu cyfrifiadur, a’i anfon ato. Yna, gosododd Osian y lleisiau ar ffurf orffenedig o’r trac…a dyma i chi’r canlyniadau…
Llongyfarchiadau i bawb am greu caneuon mor arbennig.

https://soundcloud.com/user-9…/bwrlwm-tawelwch/s-bMeWIfdP7FY

https://soundcloud.com/user-908…/lili-lia-sara/s-mg3vLi4THmx

Gweithdai ar gyfer Staff a Darparwyr Blynyddoedd Cynnar

Mewn partneriaeth â Chymraeg i Blant, mae Hunaniaith wedi bod yn cynnal gweithdai er mwyn arfogi gweithwyr a darparwyr gweithgareddau blynyddoedd cynnar i ddarbwyllo rhieni, y byddant yn cwrdd yn eu gwaith, o fanteision cyflwyno’r Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Perthyn 2 elfen i’r gweithdy:

• Ymarfer trafod delweddau ystrydebol a chyfoes perthnasol i’r Gymraeg dan arweiniad swyddogion Hunaniaith
• Cyflwyniad gan reolydd rhaglen Cymraeg i Blant am fanteision magu plant gyda’r Gymraeg ac yn amlieithog, ynghyd â dulliau o sut i’w weithredu

Weithiau bydd cyflwyniad ychwanegol megis gan Uwch Swyddog Chwarae a Datblygiad Cyngor Gwynedd / Dechrau’n Deg ar ddatblygiad plant a chaffael iaith yn gyffredinol: gwybodaeth a gafwyd yn ddefnyddiol gan fynychwyr, ac a blethai’n hawdd gyda’r negeseuon am allu plant i gaffael y Gymraeg gydag ieithoedd eraill.

Yn ddi-os mae mynychwyr y gweithdai wedi datgan lefel uchel o foddhad a pharodrwydd i addasu eu gwasanaeth i adlewyrchu negeseuon a gawsant yn y gweithdai.

Gweithgareddau i’r Teulu

Ers rhai blynyddoedd mae Hunaniaith wedi bod yn trefnu gweithgareddau sirol ar gyfer teuluoedd yn ystod gwyliau hanner tymor. Enghraifft o hyn ydy Chwedlau Chwefror lle rhannwyd hanes y 2 ddraig gan Gwyn Edwards yng Nghraflwyn. Yna mi fuodd Leisa Mererid yn ein harwain i fyd y Tylwyth Teg ym Mhantperthog ac yn adrodd chwedl Bendigeidfran yn Harlech. Meirion MacIntyre Huws fu’n   adrodd stori Rhys a Meinir yng Nghlynnogfawr;  a dangoswyd y ffilm Eldra, y sipsi Cymraeg, yn Sinema’r Llusern Hud yn Nhywyn. Yn ogystal â chlywed stori ‘roedd cyfle i’r plant a’u hoedolion greu celfyddyd …megis cerdd, darlun, pennau  dreigiau a chlustiau tylwyth teg… a chael lot o hwyl!

Enghraifft arall ydy Y Goeden Ioga dan arweiniad Leisa Mererid, a addasodd ei llyfr o’r un teitl i gynnwys symudiadau ioga mewn stori’n ymwneud â gwahanol greaduriaid y goedwig. Darparodd Hunaniaith bypedau llaw gogoneddus o’r creaduriaid yma er mwyn cyfoethogi’r profiad i deuluoedd ym Mangor, Blaenau Ffestiniog, Llanberis, Nefyn, Y Groeslon a’r Parc, ynghyd â lluniau i’w lliwio yn ar ddiwedd y sesiwn.

Dyma enghraifft o weithgaredd i’r teulu yn Nhywyn, dan arweiniad Menna Thomas a Mair Tomos Ifans:

Gweithdai Crefft a Chelf i Blant

Dangosodd ymarferiad  Gweithredu’n Lleol yn Abersoch a Thywyn fod gweithgareddau i blant oddi allan i oriau ysgol yn Gymraeg yn brin. Mewn ymateb comisiynwyd cyfres o weithdai celf a chrefft yn y ddwy gymuned.  Arweiniodd Elan Rhys weithdai celf a Bethan Roberts, Oriel Pwlldefaid, Pwllheli  sesiynau crefft yn Nhywyn ac Abersoch fel ei gilydd.

Ymwelodd Elan ac Ysgol Pen y Bryn, Tywyn yn wythnosol i arwain 6 sesiwn i blant oedran 8+.  Canolbwyntia pob sesiwn ar gyfrwng a thechneg wahanol i ddehongli Tir a Môr fel themâu.  Defnyddiwyd y themâu i ddysgu enwau Cymraeg ar goed a phlanhigion  i’r plant. Erbyn diwedd y cyfnod llwyfannwyd arddangosfa o waith yr holl blant a ymunodd a’r gweithdai

Arweiniodd Bethan y sesiynau crefft ar ôl oriau’r ysgol i blant yn Abersoch i blant y pentref a hefyd cymunedau  Llanengan, Llangian, Llanbedrog a Mynytho. Cafwyd sesiynau crefft ar gyfryngau a thechnegau amrywiol gan gynnwys paentio crochenwaith, gwaith moséc, creu gemwaith a phaentio gwydr.  Cofrestrodd 18 o blant i fynychu’r sesiwn gyntaf.  Yn sgil eu poblogrwydd cynyddodd hynny i 24 o blant erbyn diwedd y tymor.

Deuai mwyafrif y plant y ddwy ardal o aelwydydd lle na siaredir y Gymraeg ond roedd pob un yn drwyadl ddwyieithog oherwydd cyfrwng iaith ysgolion cynradd Gwynedd. Gosododd cynsail ieithyddol hwyliog a chadarn yn y Gymraeg yn y ddau brosiect ac fe welwyd y plant yn defnyddio’r iaith ymysg ei gilydd heb oruchwyliaeth nac anogaeth. Defnyddiwyd y ddau brosiect i rannu negeseuon positif am fod yn artistiaid amlieithog.

Mudiad Adloniant Dolgellau

Gyda chefnogaeth Delyth Medi Jones, athrawes Gymraeg yn Bro Idris, Dolgellau, daeth grŵp o 7 disgybl Blwyddyn 10 Bac Cymraeg ynghyd ar gyfer ffurfio MAD sef Mudiad Adloniant Dolgellau, i drefnu gweithgareddau i gynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc y dref.

Cynhaliwyd Sinema Achlysurol a Gweithdy Beat-Bocs ond am eu gigs y cofir MAD yn bennaf.

Gyda chymorth Ffermwyr Ifanc Meirionnydd daeth enwau mawr y Sîn Roc Gymraeg i’r Clwb Golff a Thŷ Siamas i ddiddanu cannoedd o bobl ifanc Dolgellau a’r cylch yn rheolaidd rhwng 2015 a 2018.

Prosiect 2 Genhedlaeth

Dan arweiniad Ffion Dafis cynhaliwyd sesiynau er mwyn dod â phobl ifanc a phobl hŷn ynghyd i drafod elfennau oesol glaslencyndod.

Wrth ymweld â chartref preswyl Cefn Rhodyn, Dolgellau adnabu 14 oedolyn â chanddynt diddordeb i rannu eu storïau. Yna, yn Ysgol Bro Idris, arweiniwyd 6 o ddisgyblion Blwyddyn 11 i drafodaethau am henaint a’r henoed. Yn dilyn hyn, daeth y ddwy garfan ynghyd am sgwrs dros baned a chacen yng Nghefn Rodyn. Cafwyd bore diddan gyda phawb yn barod eu cyfraniad. I gloi bu “di-brîff” wedi i’r bobl ifanc ddychwelyd i’r ysgol, a gofynnwyd am adborth gan y cartref.

Bu ymateb cadarnhaol i’r profiad o du’r henoed, staff y cartref, a’r bobl ifanc; gyda dyhead i barhau â’r cyswllt. Derbyniwyd cais i rannu gwybodaeth ac adnoddau gan Gydlynydd Pontio’r Cenedlaethau: Uned Llesiant Cyngor Gwynedd er mwyn gallu efelychu’r profiad gyda myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai.


Cynhadledd: Cymraeg, Cyflog & Cyfle:
Y Diwydiannau Creadigol

Mae Hunaniaith yn cynnal gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o bwysigrwydd y Gymraeg fel sgil ar gyfer gwaith a gyrfa. Wrth gydweithio â  Sgiliaith, Grŵp Llandrillo Menai a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol bu modd i Hunaniaith ymgysylltu â 50 o fyfyrwyr 16+ a oedd yn astudio’r Diwydiannau Creadigol, i drafod manteision y Gymraeg o fewn y sector.

Yn dilyn bore o archwilio gwerthoedd personol a chenedlaethol gan ddefnyddio Cardiau Gwerthoedd Meee, bu dosbarthiadau meistr gyda Ffion Dafis, Fflur Medi, Meilir Rhys Williams, Lisa Jên, Dic Ben, Anna Fon, Manon Awst, Mari Gwent, Mirain Fflur; a Cliff & Manon o Rownd a Rownd, i rannu eu profiadau am sut mae gallu siarad Cymraeg wedi bod o fudd iddynt yn eu gyrfa- “Y ffaith ydi fy mod i, trwy allu siarad dwy iaith, wedi gallu manteisio i’r eithaf ar ddwywaith gymaint o gyfleoedd,” meddai Tudur Owen, a fu’n rhannu ei brofiadau yntau gyda’r myfyrwyr.

Cafwyd ymateb cadarnhaol dros ben i’r dydd gyda’r myfyrwyr a’r cyfranwyr ill dau wedi mwynhau ac yn gweld budd i’r diwrnod.

Mae gan siarad Cymraeg fwy o fanteision nag on wedi sylweddoli.”, “Rhoddodd y siaradwyr wybodaeth bwysig i ni ac a helpodd fi i feddwl am yr hyn dwi eisiau ei wneud.”, “Mae bod yn ddwyieithog yn gallu fy helpu i gael gwaith.”

Dyma gyfweliad gan Huw Gwynant: un o’r  adnoddau sy’n rhan o’n Pecyn Ymwybyddiaeth Iaith ar gyfer pobl ifanc:

Y £ Gymraeg

Mewn ymgynghoriad â thrigolion Dolgellau mynegwyd dyhead i’r Gymraeg fod yn fwy gweladwy ymysg siopau a busnesau’r dref.  O ganlyniad, lansiwyd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o fanteision y Gymraeg mewn busnes ar ffurf prosiect Mathemateg, gyda disgyblion uwchradd Ysgol Bro Idris yn rhannu Holiadur Asesiad Iaith ymysg y busnesau lleol. Wedi iddynt gasglu a dehongl’r data, penderfynwyd a oedd y busnes yn deilwng o sdicer Y £ Gymraeg i’w osod yn eu ffenestr – fel dangosydd eu bod yn gallu darparu gwasanaeth Cymraeg, bod y Gymraeg yn weledol a / neu bod agweddau cadarnhaol ac awydd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Cynigwyd gwasanaeth cyfieithu syml gan ddisgyblion ar sail yr ymatebion yn ogystal, fel dilyniant.  Lansiwyd yr ymgyrch gan Liz Saville-Roberts  a bu iddo ysgogi newid ffafriol. Gweithredwyd y prosiect yn Nhywyn yn ddiweddarach gan ddilyn yr un fformat.

Cydweithio â busnesau i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a Chymreictod yn nhrefi Gwynedd

Pob blwyddyn bydd Hunaniaith yn codi ymwybyddiaeth busnesau Gwynedd o’r Gymraeg a’r etifeddiaeth Gymreig, drwy fanteisio ar ddigwyddiadau a dathliadau neilltuol i Gymru.

Mae Gŵyl Santes Dwynwen a Gŵyl Ddewi wedi’u dathlu yn llawer mwy gweledol yn nhrefi Dolgellau, Porthmadog, Pwllheli a Thywyn dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil ymyrraeth Hunaniaith a chydweithrediad partneriaid yn y cymunedau hynny.

Drwy gydweithio â Grŵp Busnes Dolgellau, Parêd Dewi Sant PwllheliCaru Port a Chyngor Tref Tywyn, trefnwyd cystadlaethau addurno ffenestri siopau poblogaidd ym mhob un o’r trefi, i ddathlu gwyliau’r ddau sant unigryw Gymreig. Bellach, mae’r cystadleuaethau yn rhan annatod o raglenni blynyddol y partneriaid yn y cymunedau ac yn cael eu croesawu gan fusnesau fel cyfle i  ychwanegu lliw a difyrrwch i strydoedd   siopa’r trefni, yn ystod cyfnod tawel y gaeaf.

Yn 2020 ymunodd tref Y Bala yn y dathliadau.

Mae Hunaniaith yn manteisio ar y cyfleoedd yma i drafod manteision defnyddio’r Gymraeg mewn busnes, ac i gynnig     cyngor a chyfleoedd i fusnesau ehangu eu gwasanaeth Cymraeg

Dyma enghraifft o arfer da: Caffi Maes, Caernarfon:

Teithiau Cerdded i Ddysgwyr

Mae’n arfer gan dimau Hunaniaith a Chymraeg i Oedolion y Gogledd Orllewin gwrdd i adnabod ffyrdd o gefnogi gwaith ei gilydd. Gwelwyd bod teithiau cerdded i ddysgwyr yn gyfwng da i roi’r cyfle i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau iaith a chymhathu i gymunedau Cymraeg.  Rhoddwyd dimensiwn ychwanegol i’r gwaith drwy gydweithio â busnes awyr agored o Ddyffryn Ogwen; Anelu – Aim Higher a oedd yn awyddus i ehangu eu darpariaeth drwy’r Gymraeg.

Yn ystod haf a hydref 2019 trefnwyd 5 taith ar wahanol rannau o Lwybr Llechi Eryri sef teithiau a gynigai her gymedrol i gerddwyr a chyfle i’r arweinydd ddehongli’r hanes a’r tirwedd lleol.  Cafwyd cyfle i siaradwyr hyderus sgwrsio â dysgwyr; a chafodd y dysgwyr gyfle i ddysgu a deall mwy am dreftadaeth gyfoethog cymunedau’r chwareli llechi.

Mwynhaodd y dysgwyr bob un o’r teithiau a nodwyd ganddynt bod cyfnod estynedig o sgwrsio yn y Gymraeg, gyda digon o gyfleoedd i newid y sgwrs a’r sgwrsiwr wedi bod yn hwb i’w dysgu.

Peilotwyd cynllun arall ym mro Penllyn ar y cyd gyda Teithiau Dro Bach ar gyfer 3 taith gerdded i ddysgwyr yng nghyffiniau’r Bala, gyda’r nod o weld menter breifat yn datblygu i gynnig gweithgareddau cynaladwy i ddysgwyr.

Yn ogystal â’r teithiau yn yr ucheldiroedd trefnodd Hunaniaith deithiau cerdded llawr-gwlad mwy cymedrol ar y cyd gyda thiwtor-drefnydd Dysgu Cymraeg Dwyfor. Arweiniwyd y teithiau gan wirfoddolwyr a chafwyd 2 daith ar y Lôn Goed a thaith ar lannau Afon Dwyfor yn nhymor yr eirlysiau, ddechrau 2020. Hefyd, bu taith hyfryd ynghanol Y Goedwig Geltaidd ym Meirionnydd, dan arweiniad Catrin Roberts.

Dyma fideo am ein gwaith efo Anelu: