Gwaith Hunaniaith ydy hyrwyddo’r Gymraeg.
Mae’r gwaith yn cael ei rannu rhwng 4 maes:
- Annog pasio’r Gymraeg i fabis a plant ifanc o’r cychwyn cyntaf,
- Cefnogi teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg,
- Dangos i blant a phobl ifanc bod gwerth i’r Gymraeg,
- Gweithio mewn cymunedau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Dyma flas ar rai o brosiectau Hunaniaith ar draws y 4 blaenoriaeth:
Cymhathu Dysgwyr
Mae cydweithredu gyda’n partneriaid yn y sector: Dysgu Cymraeg, Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn a Say Something in Welsh wedi’n galluogi i gynnig cyfleodd i siaradwyr Cymraeg ymarfer eu sgiliau yn y Gymraeg ac i gymhathu i gymunedau Cymraeg.
Yn ystod yr haf a’r hydref 2021 trefnwyd 14 o deithiau cerdded gan Hunaniaith i siaradwyr Cymraeg newydd yng nghwmni siaradwyr mwy medrus; pob un gydag arweinydd lleol gwybodus.
O lethrau’r Rhiw yn Llŷn i strydoedd cefn Bethesda ac o Nanmor ar lannau’r Glaslyn, i ddyffryn Peris ac i’r Felinheli ar lannau’r Fenai ymunodd 177 o bobl a’n teithiau cerdded.
Yn ogystal â’r uchod, bu i griw selog a brwd gyfarfod yn rheolaidd am Dro & Jangyl yn ardal Llanberis efo Ann Bierd.
Un Dydd ar y Tro
Creodd Leisa Mererid, yr athrawes ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar boblogaidd gyfres o fideos dyddiol i blant fydd i’w cynorthwyo i gynnal llesiant ac iechyd meddwl.
Comisiynwyd y fideos gan Hunaniaith i’w darlledu yn ddyddiol, ddydd Llun tan ddydd Gwener yn ystod y tymor rhwng Ionawr 4ydd a Chwefror 26ain 2021 ar sianel ddigidol AM Cymru.
Fe’u cynlluniwyd i ysgolion ar gyfer y disgyblion ac mae’n bosib i deuluoedd eu defnyddio adref. Bwriad yr ymarferion yw cyflwyno Ioga ac Ymwybyddiaeth Ofalgar (Meddylgarwch) mewn ffordd syml a hwyliog, gan wneud hynny ‘un dydd ar y tro’. Mae gwerslyfr i gyd-fynd a’r fideos a noddwyd gan Wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd. Cliciwch yma i gael copi PDF.
DARLITH efo KRISTOFFER HUGHES
Darlith Cerridwen efo Kristoffer Hughes
Darlith i archwilio pwysigrwydd CERRIDWEN i’r Traddodiad Barddol Cymraeg a’i datblygiad fel duwies gyfoes https://www.youtube.com/watch?v=xkgv97pgm7A
GWEITHDAI GWYDDONIAETH gan SBARDUNO ar gyfer oed 7+
LLWYFAN LLŶN
Llwyfan Llŷn
Bob bore Sadwrn rhwng 14:11:20 – 12:12:20 drwy gyfrwng Zoom cynhaliwyd cyfres o weithdai i roi blas ar bob math o berfformio i 10 plentyn rhwng 8 a 12 oed. Hwyluswyd pob un o’r gweithdai gan Anni Llŷn gyda chymorth meistri o feysydd action, dawns, cymeriadu a chanu sioeau cerdd.
GŴYL NANTIAITH
Mewn partneriaeth â Chanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn trefnwyd gŵyl eang ei hapêl i ddathlu Calan Gaeaf: 31/10 a oedd yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau rhithiol fel a ganlyn:
1. Gweithdy Clocsio efo Tudur Phillips.
2. Gweithdy Creu Cerdd Ddychrynllyd efo Anni Llŷn
3. Gweithdy ysgrifennu o brofiad personol efo Angharad Price
4. Sesiwn goginio efo Laurent Gorce: cogydd Nant Gwrtheyrn sydd wedi dysgu Cymraeg,
5. Sesiwn efo Huw Brassington yn adrodd hanes ei gampau.
6. Emma Jones: Llifon Llawen yn arwain sesiwn ioga i deuluoedd.
7. Twm Elias yr hanesydd gwerin yn sgwrsio am darddiad paganaidd Calan Gaeaf
Darlledwyd 3 o’r digwyddiadau yn fyw drwy sianel AM Cymru. A recordwyd 4 digwyddiad o flaen llaw i’w darlledwyd ar yr un sianel.
CYSTADLEUAETH CALAN GAEAF
Cystadleuaeth Calan Gaeaf 2020
Cafodd syniad ac adnoddau a grëwyd gan Hunaniaith eu defnyddio ar gyfer Cystadleuaeth Calan Gaeaf Cenedlaethol y Mentrau Iaith gan ddwyn i sylw ffigwr blaenllaw o chwedloniaeth Celtaidd ar gyfer Dydd y Meirw, sef Gwyn ap Nudd. Comisiynwyd fideo yn adrodd stori Gwyn ap Nudd a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymreig efo’r storïwr Gwilym Morus-Baird: https://www.youtube.com/watch?v=64bVHxY0-ck a gofynnwyd i blant a phobl ifanc fynd ati i greu ac addurno penglog. Bu’r gystadleuaeth yn boblogaidd iawn ledled Cymru a thu hwnt a bu eitem amdani yn nation.cymru https://nation.cymru/news/call-to-ditch-anglo-american-halloween-and-restore-welsh-traditions/
Nonsens a Nodau
Nonsens a Nodau
Comisiynwyd Mair Tomos Ifans i greu cyfres o 10 fideo er mwyn cyflwyno caneuon traddodiadol sy’n addas ar gyfer plant 7-11 oed (a’u oedolion) Teitl y gyfres ydy Nonsens a Nodau oherwydd bod gan y caneuon a ddewiswyd eiriau nonsens, neu iaith y Tylwyth Teg, yn ôl rhai!
Cliciwch y ddolen isod i fynd i Sianel YouTube Hunaniaith i weld y fideo cyntaf sef Migldi Magldi…. https://www.youtube.com/watch?v=wUoqf42BkWI
Gweithdai Celf
Gweithdai Celf Tess Urbanska
Dilynwch y ddolen isod i Sianel YouTube Hunaniaith i weld y cyntaf o’r fideos: https://www.youtube.com/watch?v=4aKPbdeg7J0&t=2s
Cofiwch hefyd bod mwy o wybodaeth ar ein tudalen Facebook