Newyddion

Ar y Gweill:

Ewch i’n tudalen Facebook i gael y diweddaraf

Haf o Hwyl 2022

Ar gyfer yr haf eleni derbyniodd Hunaniaith arian grant Haf o Hwyl gan Lywodraeth Cymru.

Bwriad yr arian oedd creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau cymdeithasu yn dilyn cyfnod go anodd.

Dyma ein rhaglen…

Diolch i bawb fu’n rhan o’r hwyl!

Symud i Wynedd, Dysgu Cymraeg a Phrofiadau Dysgwyr

Wedi symud i Wynedd yn ddiweddar?

Darllena ein e-lyfr Cyflwyniad i Iaith a Diwylliant Gwynedd er mwyn dysgu mwy am yr iaith Gymraeg a’i lle ym mywyd pob dydd trigolion y sir ‐ ym myd addysg, yn y gwaith ac yn y gymuned:

Profiadau dysgwyr

Dyma dri fideo ‘Dysgu a Mwynhau yn Gymraeg’ sy’n adrodd profiadau dysgwr Cymraeg:

Beiciwr mynydd sydd hefyd yn rhedeg bwthyn gwyliau yw Alex, a ddysgodd Gymraeg er mwyn gallu teimlo’n rhan o gymuned leol Y Bala.

Mae Carrie’n rhedeg busnes ‘Cosyn Cymru’ yn cynhyrchu caws ym Methesda. Dysgodd Carrie Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei mab ifanc a bellach mae Carrie’n defnyddio’r iaith bob dydd yn ei gwaith ac fel arall.

Un o Birmingham yw Ann yn wreiddiol a ddysgodd Gymraeg flynyddoedd yn ôl. Mae hi bellach yn diwtor ac yn dysgu Cymraeg i eraill ers 10 mlynedd.

Dysgu Cymraeg

‘Mae nifer o ddarparwyr gwersi Cymraeg ar gael:

Y Ganolfan Iaith Genedlaethol, sy’n cynnal gwersi Cymraeg i unigolion , grwpiau a theuluoedd yw Nant Gwrtheyrn neu y Nant fel y’i gelwir ar lafar gwlad. Mae’n lle hudolus wedi’i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru.

Mae cyrsiau gyda sawl arddull dysgu ar gael drwy Dysgu Cymraeg/Learn Welsh:

Y Gymraeg oedd un o ieithoedd mwyaf poblogaidd ar ap byd-eang Duolingo yn 2021. Beth am ymuno â’r miloedd o bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae SaySomethingin-Welsh  hefyd yn ap a chymuned gyda chefnogaeth ar-lein

Pecyn Digidol Hanes Y Gymraeg

Mae Hunaniaith wedi creu fersiwn digidol o’u sesiwn ymwybyddiaeth iaith: 7 PETH PWYSIG yn Hanes yr Iaith Gymraeg.

Mae’n cynnwys fideo tua 5 munud o hyd gyda fersiwn Cymraeg, a Chymraeg gydag isdeitlau Saesneg.

Yn dilyn gwylio’r fideo mae cwis am y cynnwys ar ffurf Kahoot gyda fersiwn Cymraeg, a fersiwn dwyieithog.

Mae’r pecyn yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc CA2 +

Cer i gael golwg a thro…

‘Neb Ond Ffyliaid’ – cyfres o sgyrsiau am enwau lleoedd

Sesiynau byw a rhyngweithiol, gyda Meirion MacIntyre Huws, ar dudalen Facebook Hunaniaith

Cyfres o sgyrsiau am enwau llefydd 

Yn ôl Yr Athro John Morris Jones un tro ‘Fyddai ‘na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd!’ Ffyliaid neu beidio mae hen ddigon o bobl â diddordeb yn y maes diddorol a diderfyn hwn.  

Dyma gyfres o sesiynau digon anffurfiol yn trafod tarddiad enwau lleoedd sydd wedi eu hanelu at bobl sydd eisiau mentro i’r maes difyr hwn ond ddim yn gwybod lle i gychwyn. Byddwn yn cychwyn wrth ein traed ac yn mynd o Bant i Fryn ac o Lan i Lwyn yn trafod sut mae enwau llefydd wedi newid dros y canrifoedd. Dysgwn hefyd am sut mae ein hiaith bob dydd hefyd wedi newid a sut mae’r newid hwnnw wedi effeithio ar enwau lleoedd. Bydd y sgyrsiau tua 40 munud o hyd a chwestiynau/trafodaeth i ddilyn.

Nosweithiau Iau, 8:00yh: 

Hydref – 28ain, 2021 

Tachwedd – 25ain, 2021 

Rhagfyr – Dim sesiwn

Ionawr – 20fed, 2022 

Chwefror – 17eg, 2022