Swyddi

Isod mae’r swyddi gweigion, cyfredol:


Aelodau Grŵp Arweiniol

SWYDDI GWIRFODDOL

Mae Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) yn newid! Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo fod y Fenter Iaith yn symud o’r cyngor i fod yn endid newydd fydd yn sefyll ar ei draed ei hun ac wedi ei wreiddio yng nghymunedau Gwynedd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.

Er mwyn symud ymlaen rŵan rydym angen eich help chi! Rydym yn chwilio am unigolion, 8 i gyd, fydd yn gweithio fel ‘Grŵp Arweiniol‘ i hwyluso’r symudiad o’r cyngor i fod yn endid annibynnol. Penodiad gwirfoddol tymor byr fydd hwn yn y lle cyntaf rhwng Gorffennaf 2022 ac Awst 2023,  gyda dim ymrwymiad pellach i barhau wedi hynny, ond gobeithir y bydd ambell aelod o’r grŵp yn parhau i eistedd ar fwrdd yr endid newydd.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n byw yng Ngwynedd, sy’n frwdfrydig dros y Gymraeg a sydd efo profiad perthnasol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y dogfennau isod neu cysylltwch gyda IwanHywel@gwynedd.llyw.cymru

Manylion Penodi Ffurflen gais